Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Medi 2016
Amser: 09.15 -
12.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3708
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AC (yn lle Dawn Bowden AC) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Chief Medial Officer |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 466KB) Gweld fel HTML (267KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Dawn Bowden AC; dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ei rhan.
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r llythyr oddi wrth Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.2 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a fydd yn cael ei osod cyn y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adrodd ar 22 Medi 2016.
4.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cymru Llywodraeth y DU a'i oblygiadau ar gyfer cylch gwaith polisi'r Pwyllgor.
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion
6.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion
8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd ar ystyried cynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y sesiwn gynllunio strategol a chwmpasu ymholiadau tymor hwy yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2016.